Er nad yw Gareth Bale prin wedi chwarae dros ei glwb ym misoedd ola’r tymor pêl-droed, mae Dylan Ebenezer yn ffyddiog y gall capten Cymru ein tanio i Gwpan y Byd yn Qatar ddiwedd y flwyddyn.

Nid yw’r tîm wedi cyrraedd y ffeinals ers 1958, ac mae ganddyn nhw gyfle i fod yno eleni os wnawn nhw guro’r gêm ail gyfle derfynol yn Stadiwm Caerdydd ddydd Sul sy’n cychwyn am bump y pnawn ac yn fyw ar S4C.