Y penwythnos hwn mae yna griw o ddysgwyr Cymraeg brwd yn dod at ei gilydd i ddathlu… nid y Jiwbilî, ond un o fandiau mwya’ arbrofol ac annwyl y Sîn Roc Gymraeg…

Aeth blwyddyn heibio ers i ni golli David R Edwards, canwr carismatig sydd – yn ogystal â recordio rhai o glasuron pop amgen ac arbrofol ein cenedl – wedi ysbrydoli pobol i fynd ati i ddysgu siarad Cymraeg trwy ei ganeuon gyda’i fand Datblygu.