Mae’r ffaith y bydd perchnogion ail gartrefi yn derbyn mwy o gefnogaeth ariannol tuag at eu biliau ynni na phobol sydd â dim ond un cartref yn “anfoesol”.

Dyna farn y Cynghorydd Craig ab Iago sy’n gyfrifol am Dai ar Gabinet Cyngor Gwynedd.

Daw ei sylwadau wedi i’r Trysorlys gadarnhau y bydd pob tŷ unigol – gan gynnwys ail gartrefi – yn derbyn swm o £400 i liniaru effeithiau cynnydd mewn biliau trydan a nwy.

O ganlyniad, bydd perchnogion ail dai yn derbyn £800.