Yn eich erthygl ar ddiwygio’r Senedd (Golwg 19/05/22) mae’r AoS Llafur Mick Antoniw yn datgan: “nid pa system etholiadol y dylid cael ei mabwysiadu yw’r mater pwysicaf yn hyn oll…” Aiff ymlaen i fynegi ei farn “bod cwestiynau dyfnach i’w gofyn am sut i annog pobol i bleidleisio yn y lle cyntaf”.