Yn y parc fydd y parti. Mia wedodd wrthoi amdano fe yn yr ysgol, ac o’n i ddim wir yn deall i ddechre achos fi’n galler bod bach yn ara’ ’da pethe fel hyn. Pen yn y gwynt, ma’ Miss Evans yn ei alw fe, ond fi jest yn ei chael hi mor anodd i feddwl yn stret weithie.

‘Parti’r cwîn? Pam ma’ ddi’n dod i parc ni i ga’l parti?’