Ryden ni’n gweld rŵan pam fod y gwir yn cyfri. Pam fod rhaid i bobol allu ymddiried mewn arweinydd gwleidyddol.

Y tu hwnt i’r gwrthdaro arferol rhwng pleidiau, ac o dderbyn hyd yn oed na all gwleidyddion fod yn gwbl agored trwy’r amser, mae yna reswm llawer mwy tros ymosod ar gelwyddau Boris Johnson.

Mae’r celwyddau dros y partïon yn fater o ymddiried rhwng arweinydd ac etholwyr, yn fater o barch aton ni ac, yn fwy fyth, at y bobol sydd wedi diodde’ yn ystod y pandemig.