Does dim yn dangos yn fwy eglur mor rhyfedd y mae cynifer o bobl y Deyrnas Unedig na’r Eurovision Song Contest.

Ers blynyddoedd bellach mae pobl o bob rhan o’r wladwriaeth fach hon wedi bod yn cwyno am y gystadleuaeth a’i safon.

Cwyno nad yw’r perfformwyr yn ddigon da. Cwyno nad yw’r caneuon yn ddigon da. Cwyno nad yw’r cyflwynwyr yn ddigon da. Cwyno mai jôc o sioe yw hi. Cwyno ei bod yn costio gormod i’w llwyfannu. Cwyno bod y BBC yn ysgwyddo gormod o faich y gost honno.