Tydi pawb ddim yn gwirioni’r un fath, ac mae hynny yn arbennig o wir am y Teulu Brenhinol.

I rai, dyma griw sydd wedi eu geni i freintiau anhygoel, moethusrwydd cywilyddus a hawddfyd na ellir mo’i gyfiawnhau.

Yn ôl eu hedmygwyr, maen nhw yn denu miloedd ar filoedd o dwristiaid i Lundain ac felly yn cyfrannu mwy i’r coffrau nag y maen nhw yn ei wario. Ac yn rhai da am dorri rhuban wrth agor pwll nofio newydd yn Wigan.