Mae plac wedi ei osod ar gartref teuluol Dylan Thomas sy’n dangos yr enw Cymraeg roddodd ei dad ar y tŷ – Glan-rhyd.

Fe gafodd y plac ei ddadorchuddio gan y Prifardd Jim Parc Nest yn ardal Uplands Abertawe.

“Wrth osod yr enw Cymraeg fan hyn nawr, ry’n ni yn gwrthdroi y duedd i osod enwau Saesneg yn lle enwau Cymraeg ar dai ac ar gartrefi yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.