Fel pob un ohonom, dw i wedi colli pobl yn fy mywyd. I mi, nid oedd yr un yn annisgwyl, yn sioc. Ac, efallai oherwydd hynny, dw i erioed wedi bod drwy broses alaru. Rywsut, dw i wedi bob tro derbyn mai hon yw’r drefn, mewn modd sy’n ymylu ar fod yn ddideimlad, er y tristwch a’r bwlch fydd wastad yno. “Dyna fywyd, Jason, delia efo fo”.