‘Gewch chi ddechrau.’

Mae fy llais yn swnio fel pregeth yn neuadd yr ysgol. Mae’r disgyblion yn agor eu llyfrynnau arholiad ac yn darllen, tawelwch y fan hyn fel distawrwydd y parchus ofn mewn cadeirlan. Maen nhw’n darllen. Yn darllen y cwestiwn ddwywaith, dair gwaith, fel mae eu hathrawon wedi pwyso arnyn nhw i’w wneud. Coda ambell un eu beiros a dechrau ’sgwennu’n syth. Eistedda ambell un arall yn llonydd, dalen lân y papur yn eu herio’n bowld.