Ma’ ’da rhai pobol eu hofan nhw. Ma’ Mam yn gweud y dylen i fod ag ofan hefyd, er ’mod i wedi gweud wrthi o’r bla’n nagyw gwiber ond yn ymosod pan fod e’n credu ei fod e mewn peryg. ‘Sdim ots ’da fi, so ti i fynd yn agos atyn nhw, ti’n deall? Felly soi wedi gweuthi am y gwiberod ar waelod y graig.