Ni raid i Huw Onllwyn [‘Ydy Llywodraeth Cymru am ddwyn eich cartrefi?’, Golwg 24/03/22], nac i gyfoethogion gwlad, golli eiliad o gwsg: pobl dlawd sy’n cael eu cosbi am fod ag ystafell sbâr yn eu tai.

Ac nid yw Huw, a gwrthrychau’i edmygedd, am golli’u cartrefi.

Tenantiaid, a dalwyr morgais ar incwm annigonol, fydd yn dioddef – fel arfer.

Nid Llywodraeth Cymru fydd yn chwalu’r aelwydydd bregus yma, wrth gwrs. Beilïod, a chwmnïau cyfrifwyr, fydd wrthi – fel arfer.