Mi fues i draw i Gynhadledd Wanwyn y Blaid, a rhaid dweud fy mod wedi disgwyl mwy o bobol yno!

O ystyried mai hon oedd y gynhadledd gyntaf i Blaid Cymru allu ei chynnal yn y cnawd ers 2019, roedd y nifer oedd yn bresennol yn Stadiwm y Principality braidd yn siomedig.

Ac o ystyried bod yr etholiadau lleol rownd y gornel ym mis Mai, roedd y nifer o gynghorwyr ac arweinwyr cynghorau sir sydd o dan reolaeth Plaid Cymru a oedd yno, yn fwy siomedig fyth!