Canmoliaeth gan Estyn i Ysgol Dyffryn Ogwen

Cyhoeddwyd adroddiad gan Estyn, gwasanaeth arolygiaeth ysgolion Cymru, yn dilyn arolwg yn Ysgol Dyffryn Ogwen ddechrau Chwefror.

Mae cynnydd y disgyblion o ran eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau yn cael ei ganmol. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ba mor gryf yw eu cyfraniadau ar lafar a’r ffordd maen nhw’n gwrando’n astud ac yn barchus ar yr athrawon ac ar ei gilydd.

Dywedodd Dylan Davies, y Pennaeth, eu bod yn “hynod falch o’r adroddiad” a’r ffaith bod Estyn wedi cydnabod gwaith diflino cymaint o athrawon i sicrhau’r addysg orau bosibl.

Mwy am hyn ar wefan ogwen360.

YDO

Canmoliaeth gan Estyn i Ysgol Dyffryn Ogwen

Adroddiad cadarnhaol yn dilyn arolygiad diweddar

Ail-adfer bro

Mae Grŵp Cynefin newydd gyhoeddi cynllun gwerth £38m ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd ym Mhenygroes.

Mae’r cynlluniau yn ffrwyth cydweithio rhwng y grŵp tai a phartneriaid yng Nghyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Theatr Bara Caws.

Dywedodd yr AoS Siân Gwenll.an bod angen “meddwl yn greadigol” a bod y prosiect yma yn gwneud hynny’n union drwy adnabod y berthynas rhwng y celfyddydau, iechyd, yr economi, yr amgylchedd a chymunedau cynaliadwy.

Mwy am hyn ar wefan dyffrynnantlle360.

Ail-adfer bro

Ar Goedd

3 phrosiect sy’n rhoi bywyd newydd i’r Dyffryn

Taith Gerdded Bethel dros Wcráin

Ar fore Sul braf daeth tua 70 o bobl i gerdded yn ardal Parc-y-rhos er mwyn codi arian tuag at gymorth dyngarol i Wcráin.

Croesawodd Dylan Lewis bawb i Fethel erbyn 10 o’r gloch a chyflwynodd Nataliya Roach o Gwmann i annerch y dyrfa. Daw Nataliya yn wreiddiol o Wcráin ac mae’n weithgar iawn ar hyn o bryd yn codi arian a danfon nwyddau hanfodol i’w mamwlad.

Codwyd dros £1,700 at yr achos, a bydd yn cael ei drosglwyddo i un o elusennau dyngarol Wcr.in cyn diwedd yr wythnos.

Mwy am hyn ar wefan clonc360.

Taith Gerdded Bethel dros Wcráin

Bethel Parc-y-rhos

Codi dros £1,700 tuag at gymorth dyngarol ar fore braf.