Safodd yng nghornel yr ystafell, un pen ohono’n gorffwys yn erbyn y wal fel hen filwr blinedig. Am yr oriau cyntaf, roedden nhw’n ei drin o fel petai’n beth byw, wedi mynnu cael lloches yn y fflat oedd eisoes yn rhy fach. Troediai’r ddau o’i gwmpas yn ofalus, a distewi eu lleisiau fel petae ganddyn nhw ofn y byddai’n deffro.

Doedd yr un o’r ddau erioed wedi dal gwn o’r blaen.