Does dim modd “dibynnu” ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu cefnogaeth i drigolion sy’n dioddef yn sgil stormydd a llifogydd, yn ôl un o drigolion Pontypridd.

Barn Wyn Jones yw bod yn rhaid i drigolion “baratoi ein hunain” ac nad oes “dim cefnogaeth” ar gael gan y cyngor sir lleol.

Daw ei sylwadau ddwy flynedd ers Storm Dennis, wnaeth achosi llifogydd a difrod ym Mhontypridd, ac yn dilyn Storm Eunice a Storm Franklin yn yr wythnosau diwethaf.