Mae Gareth Roberts yn byw hanner y flwyddyn yn Horishni Plavnii yn Wcráin, a’r hanner arall yn Nhrawsfynydd. Un o’r Wcráin yw ei wraig, ac mae eu merch a’u hwyres yn byw yno, a rhyfel yn rhuo o’u cwmpas ar ôl i Rwsia ymosod ar y wlad.

Mi fuodd yn annerch gwrthdystiad yn erbyn y rhyfel ar y Maes yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, a dyma adroddiad ganddo ar y sefyllfa…