Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn cynnal cystadleuaeth bob blwyddyn ar gyfer busnesau i addurno ffenestri eu siopau. Y thema yw Iaith a Diwylliant Cymru. Yma, mae gwirfoddolwyr wedi addurno ffenest siop Hosbis St Kentigern yn Ninbych. Mae’r hosbis yn Llanelwy ac mae’n rhoi gofal lliniarol i oedolion ar draws gogledd ddwyrain Cymru. Mae cymorth hefyd i deuluoedd a gofalwyr. Mae’r hosbis yn gorfod codi £5,350 y dydd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn parhau