Mae yna jôc dda newydd ddiflannu. Am hanner canrif, Caernarfon oedd tua’r unig dref yn y byd efo bei-pas yn mynd trwy’i chanol. Bellach, mae ganddi un go-iawn.

Ond, os nac ydi hi cystal jôc, mae ffordd osgoi newydd tre’r Cofis a Bontnewydd rhywsut yn symbol o ffawd economaidd a gwleidyddol Cymru.

Roedd rhaid ei chael, wrth gwrs. Ers blynyddoedd, roedd y ffordd trwy’r dre’ o ochrau Bangor am Ben Llŷn yn anodd i ymuno â hi ac yn fwy anodd ei chroesi.