Rhwng y tywydd garw a’r colli trydan, yr holl sôn am gychwyn Trydydd Rhyfel Byd draw yn yr Wcráin, a methu dod o hyd i ddeintydd i ddandwn yr hen ddannedd, mae hi wedi bod yn gyfnod digon llwm… a hynny ar gynffon bron i ddwy flynedd o helbulon Covid.

Felly diolch byth ein bod ni am gael wythnos fach flasus o hwyl o sbri yma yng Nghymru. Mae mawr angen chwerthin yn iach a mwynhau mas draw.