Mae yna lot o sylw wedi ei roi yn ddiweddar i’r cysylltiad rhwng clybiau pêl-droed mawr ac NFTs.

Efallai eich bod chi wedi gweld y lluniau o epaod sy’n cael eu gwerthu gan John Terry, neu ‘fan tokens’ fel Socios sy’n cael eu hyrwyddo ar ochr y caeau.  Mae’r rhain yn esiampl o NFT, neu Non-Fungible Token. Yn syml iawn, mae NFT yn eitem ddigidol unigryw sydd yn perthyn i un person yn unig.