Bellach wedi sefydlu ei hun yn un o raglenni mwyaf dibynadwy S4C, dychwelodd Cymry ar Gynfas i’n sgriniau’n ddiweddar am drydedd gyfres. Yn gysyniad syml ond effeithiol, mae’n rhaglen hawdd iawn i’w gwylio. Yn fras, hanner awr o artist yn creu portread o wyneb cyfarwydd Cymreig sydd yma. Fel y dywedais i, syml.