Bob wythnos dw i’n synnu wrth weld y criw ar The Apprentice (BBC One) yn perfformio’n waeth na’r wythnos flaenorol, ond maen nhw’n llwyddo bron bob tro. Y prif wahaniaeth yr wythnos ddiwethaf oedd eu bod nhw’n cwblhau’r dasg yng ngogledd Cymru yn hytrach na Llundain, ac roedd gweld ymdrechion y cast i werthu teithiau bespoke i grwpiau o bobl yn ardal Llandudno yn boenus. Mae’n amlwg i fi nad y bobl busnes gorau sy’n cael eu dewis i fod ar y rhaglen, ond