Llongyfarchiadau (os dyna’r gair iawn) ar dy swydd newydd. Ti wedi trio’n galed amdani yn ystod yr wythnosau diwetha’; felly da iawn ti. Mi fydd hi naill ai’n swydd uffernol o fyr neu mi wnei di gyflawni gwyrthiau. Mi soniaist fod ar Boris Johnson angen “tîm ffantastig” ac mae hi’n amlwg bellach pwy oedd gen ti dan sylw.