Mae’n anodd derbyn honiad David TC Davies (Golwg 3/2/22) fod dyfodol S4C yn ddiogel dan reolaeth llywodraeth Geidwadol San Steffan.

Pa mor ddiffuant bynnag y mae o’n bersonol am y sianel, pa werth sydd i’w honiadau ac yntau heb hyd yn oed drafod hynny gydag Ysgrifennydd y Cyfryngau a chyfaill mynwesol Boris Johnson, Nadine Dorris?