Diolch am eich erthygl ddiweddar yn crynhoi sylwadau David TC Davies, Aelod Seneddol Mynwy (Golwg 3/2/22).

Dyw e ddim o blaid datganoli grym dros y Wasg a’r Cyfryngau i Lywodraeth Cymru gan y byddai hynny yn siŵr o roi ffafriaeth i’r Llywodraeth. Dewch nawr Mr Davies bach! Mae’r esgusodion arferol yma o allu Cymru i weithredu fel gwlad arferol braidd yn llafurus erbyn hyn. Ond dyna yw dadl Llundain bob tro, sef bod Cymru yn rhy fach, tlawd, plwyfol ayb.