Erbyn i’r geiriau yma ymddangos, mi fydd Boris Johnson naill ai’n gyn-Brif Weinidog neu’n ddarpar gyn-Brif Weinidog.
Os ydi o’n ddoeth – os mawr – y cynta’ fydd yn wir. Mi ddylai ymddiswyddo er lles ei blaid ei hun yn ogystal ag er lles ‘y wlad’.
Erbyn hyn, mae canlyniadau adroddiad Sue Gray bron â bod yn amherthnasol. Dydi canlyniad ymchwiliad yr heddlu chwaith ddim o dragwyddol bwys. Mae’r ffaith ei fod yn digwydd yn ddigon.
Fel y gŵyr Boris Johnson, mewn gwleidyddiaeth boblogaidd, mae delwedd ac ymddangosiad arwynebol yn cyfri cymaint – mwy weithiau – na’r gwir.
All Prif Weinidog ddim gweithredu os ydi o’n destun gwawd neu’n cael ei ystyried yn anonest; mae hynny’n wir bellach yn ei achos o, gartre’ ac yn rhyngwladol.
Yn achos rhai gwleidyddion, trasiedi Roegaidd neu Shakespearaidd ydi eu cwymp. Yn yr achos yma, mae’n debycach i un o ddramâu ffars Brian Rix erstalwm, efo drysau’n agor fan hyn a fan draw i ddangos bod parti ar droed.
Fel rheol, mi fyddech chi’n dweud na ddylai arweinydd gwladwriaeth gwympo oherwydd digwyddiadau mor bitw â phartïon pen-blwydd neu ddathliadau bach yn ei swyddfa, ond mae’r cyd-destun y tro yma’n wahanol.
Hynny, nid oherwydd rheoliadau’r pandemig yn unig, a’r gwahaniaeth rhwng ymddygiad hunanol, digywilydd y Prif Weinidog ac hunan-aberth llawer, ond hefyd oherwydd yr hyn y maen nhw’n ei ddangos am ei allu i wynebu problemau a’u datrys.
Pebai wedi dweud reit ar y dechrau ei fod yn cydnabod bod rhai digwyddiadau wedi bod yn Rhif 10 a oedd efallai, o edrych yn ôl, yn ystumio’r rheolau a’i fod am gael ymchwiliad llawn i’r cwbwl lot, mi allai agwedd pobol fod yn wahanol. Y celwydd a’r cuddio ydi’r bai mwya’.
Y broblem ydi fod yr un tueddiadau i’w gweld yn ei ymddygiad gwleidyddol hefyd.
Does neb yn trio dadlau bellach nad oedd o wedi palu celwyddau yn ystod ymgyrch Brexit; does neb bellach yn ceisio dadlau ei fod o wedi arwyddo protocol Gogledd Iwerddon gan fwriadu’i gadw ac mae pawb wedi sylweddoli erbyn hyn mai cuddio ydi ei reddf pan ddaw problemau anodd fel dechrau pandemig neu wrthdaro tros wlad fel Wcráin.
Os na fydd wedi ymddiswyddo, y cwestiwn i’w aelodau seneddol ac i’w gefnogwyr yn yr etholaethau ydi hwn: o edrych ar ei record a’i gymeriad, a oes ganddyn nhw ffydd mai dyma’r person gorau i arwain trwy argyfwng costau byw a chwyddiant ym mhris tanwydd? Mae ei lwyddiannau wedi dibynnu ar gamblo a thalp go lew o lwc.
Y cwestiwn i aelodau seneddol yr Hen Ogledd Coch ydi hwn: a ydyn nhw’n credu ei fod wedi sylweddol beth ydi ystyr ‘lefelu’ a chwarae teg a’i fod yn fwy na slogan arwynebol a gwario ychydig o arian ar bontydd a ffyrdd a phethau felly. Mae angen lefelu ymhob ardal a dim ond camau i newid natur cymdeithas fydd yn gwneud hynny.
Yn y diwedd, nid oherwydd partïon y mae/bydd Boris wedi/yn gorfod mynd, ond oherwydd fod y stori honno’n cynrychioli ei gyfnod i gyd.