Roeddwn i’n falch iawn o dderbyn fersiwn newydd o fy hoff lyfr yn anrheg Nadolig eleni. Mae Sons of Cambria yn ddiweddariad o’r llyfr gorau erioed am bêl-droed Cymru. Fe gafodd Who’s Who of Welsh International Soccer Players ei gyhoeddi yn 1991, ac roedd y llyfr yn un o’r prif ffynonellau ar gyfer fy llyfr i, sef Red Dragons.