Mae hi wastad yn drist pan mae un o fawrion y byd adloniant yn ein gadael ni, ond un cysur yw’r sylw o’r newydd a ddaw i waith yr ymadawedig.

Bu clasuron roc Meat Loaf yn cael eu chwarae yn ddi-stop ar y gorsafoedd radio yn dilyn ei farwolaeth, gan ein hatgoffa o fawredd y dyn mawr gyda’r llais mwy.

Na, doedd Meat ddim yn edrych fel seren roc. Ond Mam Bach, pan oedd o’n canu, doedd o BYTH yn rhoi llai na chant y cant.