Dim Dwynwen. Dim eleni, dim ar ôl popeth oedd wedi digwydd. Ychydig wythnosau yn ôl, wrth glirio pob hoel ohoni o’r tŷ, fe ddaeth Rob o hyd i’r llwy garu roedd hi wedi ei roi iddo ar ddiwrnod Santes Dwynwen y llynedd – llwy bren wedi ei cherfio’n arw, pob cyffyrddiad yn bygwth gadael draenen yng nghnawd tyner, meddal ei fysedd. Gwyddai y dylai gael gwared arni – doedd y llwy’n dod â dim byd ond cyllyll miniog o atgofion i’w feddwl. Ond rhoddodd Rob y llwy yn ôl yn nrôr gwaelod ei ddesg.