Erbyn i chi ddarllen hwn mae’n debyg y bydd adroddiad Sue Gray wedi ei gyhoeddi – ac fe fyddwn ychydig yn gallach yng nghyswllt dyfodol Boris Johnson.

Mae’n debyg na fydd yr adroddiad yn cynnig argymhellion pendant. Yn hytrach, fe fydd yn un ffeithiol. Sut y trefnwyd pob digwyddiad? Pwy fynychodd? Beth ddigwyddodd? Ac, wrth gwrs, i ba raddau y torrwyd rheolau covid?

Ac yn goron ar hyn oll, beth oedd rhan Boris yn y digwyddiadau?