Rydw i wedi bod yn nofio yn Llyn Padarn yn Llanberis bob dydd ers y Nadolig. Dydw i ddim yn gwisgo wetsuit a dydw i ddim yn nofio yn bell iawn. Ond wrth ymarfer yn rheolaidd, rydw i’n gyfforddus am hanner awr ac wedi dechrau edrych ymlaen yn arw i blymio fewn i’r llyn hardd. Rydw i’n gaeth i’r dŵr oer.