Prin iawn iawn yw’r unigolion sy’n gallu cyffwrdd yng nghalonnau miliynau o bobl ledled y byd.

Roedd yr Archesgob Desmond Tutu, fu farw ddiwedd 2021, yn un o’r creaduriaid prin hynny.

Er gwaethaf yr annhegwch, y creulondeb, y gormes a’r erchyllterau lu eraill a gyflawnwyd yn enw apartheid yn Ne Affrica, ac a welodd yr Archesgob a’i gydwladwyr dros ddegawdau erchyll o boenus, llwyddodd i oresgyn hyn oll a thyfu’n arweinydd ysbrydoledig i bobl ar hyd a lled y byd.