Wel dyma ni’n agosáu at y Nadolig! A phwy all anghofio Bart Simpson yn egluro: ‘Christmas is when we remember the birth of Santa Claus’.

Geiriau doeth!

Ymlaen â ni felly at ddiwedd blwyddyn galed arall – tuag at 2022! Ond beth fydd yn ein hwynebu?

Ionawr

Gwyddonwyr yn ein hatgoffa i wisgo mygydau ar bob achlysur, i’n hamddiffyn rhag Omicron, sy’n mynd o nerth i nerth. ‘Does dim byd gwell na mwgwd – hyd yn oed yn y gwely,’ meddai’r Gweinidog Iechyd.