Wrth i flwyddyn arall ddirwyn i ben, felly hefyd gyfnod un o raglenni mwyaf blaenllaw Radio Cymru, Dewi Llwyd ar Fore Sul. Ar ôl rhoi gorau i’w waith teledu ar Pawb a’i Farn a darllediadau etholiadol ddwy flynedd yn ôl, ymddeol yn raddol y mae’r darlledwr profiadol a bydd yn parhau i gyflwyno Dros Ginio unwaith yr wythnos a Hawl i Holi.