Mae yna fis bron ers diwedd uwchgynhadledd COP26 ac mae’r straeon i raddau wedi cilio o’r penawdau. Ac mae un o’r cwestiynau mwya’ heb ei ateb o hyd.

Mi ddaeth yn amlwg ers tro pa mor annheg ydi newid hinsawdd: y gwledydd cyfoethog yn ei achosi a’r gwledydd tlawd yn diodde’; y gwledydd cyfoethog yn sôn am addasu eu heconomïau llewyrchus a gwadu’r cyfle i’r gwledydd tlotach ffynnu.