Nôl ar ddechrau’r pandemig – er gwaetha’r sioc, er gwaetha’r ansicrwydd, er gwaetha’r ofn – roedd ’na ambell lygedyn o oleuni.

Yn wyneb bygythiad cwbl newydd i fywyd, bywoliaeth a ffordd o fyw, daeth pobl rywsut yn fwy ymwybodol o’r hyn oedd wir yn bwysig iddyn nhw. Eu ffrindiau, eu teuluoedd, eu cymunedau.

Cafodd grwpiau eu sefydlu gan wirfoddolwyr i helpu aelodau mwyaf bregus cymdeithas a’r sawl roedd y feirws newydd yma’n effeithio arnyn nhw.