Roedden nhw’n gwneud eu gorau, chwarae teg iddyn nhw. Nhw brynodd yr ipad yn yr wythnosau cyntaf yna dan glo, a nhw ddysgodd sut i’w ddefnyddio hefyd. Cyn hynny, ro’n i wedi bod yna i’w rhoi nhw ar ben ffordd efo’u ffonau bychain a’u gliniadur, fel petai angen hynny. Pan oleuodd sgrin fy ffôn efo wynebau fy rhieni dros facetime yn Ebrill 2020, teimlais y cyfuniad torcalonnus o lawenydd a hiraeth. ”Da chi ’di neud o!’ ‘Da chi’m f’angen i, na ’dach?