Dw i ddim yn credu mewn ffawd, ond weithiau mae yna ryw gynghanedd braf a dirgel i gyd-ddigwyddiadau.

Er enghraifft: canrif i’r diwrnod oedd rhwng kickoff rownd derfynol Cwpan FA Lloegr y Menywod eleni (rhwng Chelsea ac Arsenal, i’r rhai sy’ heb fod yn dilyn yn ddiwyd) a phenderfyniad FA Lloegr i wahardd menywod rhag chwarae pêl-droed.