Daeth yr wythnos hon â digon o sïon a sôn am y cytundeb rhwng Drakey ac Pricey, gyda’r ddau’n selio’r ddêl yn swyddogol drwy lofnodi darn o bapur.

Ac er tegwch, braf oedd gweld ychydig o bomp ar waith gyda chefnlen ddramatig Castell Coch tu ôl i’r ddau sosialydd o Sir Gâr… tra gwahanol i ystafell gyhoeddiadau arferol Llywodraeth Cymru i’r Wasg.