Mwynhau Marchnad Ffermwyr Aberystwyth 

Ar ddydd Sadwrn y busnesau bach, aeth Enfys Medi â stondin BroAber360 i farchnad y ffermwyr, Aberystwyth.

Yn ei blog byw o’r digwyddiad mae’n sgwrsio â threfnydd, stondinwyr a siopwyr am bwysigrwydd cefnogi busnesau bach y Nadolig hwn.

O werthu mêl i ganhwyllau, roedd amrywiaeth eang o ddewisiadau ar gael gyda phawb yn edrych mewn hwyliau da, er gwaetha’r tywydd oer!

Marchnad Ffermwyr Aberystwyth

Enfys Medi

Ni’n fyw bore ma yn y farchnad! 

Cyhoeddi aelodau Senedd Ieuenctid Cymru 

Mae enwau aelodau Senedd Ieuenctid newydd Cymru wedi’u cyhoeddi, wrth i 60 aelod gael eu hethol i gynrychioli pobl ifanc 11-17 oed.

Yn eu plith mae Poppy Jones o Gaernarfon, sy’n ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen.

Wrth sôn ar Caernarfon360 bod “yn rhaid” iddi sefyll yn yr etholiad, mae’n dweud mai un o’u blaenoriaethau yw gweithredu ar newid hinsawdd. Honnodd nad oedd “llawer wedi cael ei wneud” yn uwchgynhadledd COP26, a’i bod am sefyll “er lles pobl ifanc eraill”.

IMG_6963

Poppy Jones: Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Arfon

Osian Wyn Owen

Mae’r canlyniadau wedi cael eu cyhoeddi

Ymunwch â’r hwyl gyda chalendr Adfent Cymraeg rhithiol 

Mae arweinwyr y Siarter Iaith yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi dod ynghyd i greu calendr Adfent rhithiol yn arbennig i blant yr ardal.

Mae Seren a Sbarc yn gwahodd plant Ceredigion a Sir Benfro i ymuno â dathlu’r Nadolig gyda llu o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ewch draw i dudalen Facebook Cardi Iaith Ceredigion a thudalen Facebook Shwmae Sir Benfro lle bydd “sypréis dyddiol” yn cael ei lansio lan at ddiwrnod ‘Dolig – o stori Nadolig Cyw a’r Addurniadau gydag Elin Haf Jones, i sesiwn glocsio, i farddoni a llawer mwy.