Gan Peter Black y daeth blogiadau mwya’ pesimistaidd yr wythnos, yn cymharu gwleidyddiaeth gwledydd Prydain efo Hwngari a Rwsia’r Comiwnyddion …

“Mae Downing Street ar fin dechrau rhyfel newydd gyda barnwyr tros gynllun i ganiatáu i weinidogion ddileu unrhyw benderfyniadau cyfreithiol nad ydyn nhw’n eu hoffi, i bob pwrpas yn torri gallu’r llysoedd i ddefnyddio arolygon barnwrol i ddadwneud penderfyniadau gan weinidogion… mae’r ymgais hon i fwlio barnwyr i fod yn fwy ufudd yn gam arall eto at y math Hwngaraidd o unbeniaeth etholiadol y mae Johnson fel petai’n benderfynol o’i chreu…

Draw yn y Financian Times, mae Camilla Cavendish yn sgrifennu am lanast awdurdodaidd mesur heddlu, trosedd, dedfrydu a llysoedd y Llywodraeth. Mae’n ei alw’n ddryswch gwarthus o gyfreithiau a fyddai’n gweddu i Rwsia Sofietaidd – a hynny cyn i’r Llywodraeth wasgu rhagor o gymalau i mewn trwy’r drws cefn.” (peterblack.blogspot.com)

Pryderu am argyfwng gwleidyddol o fath arall y mae Royston Jones, sy’n parhau â’i genhadaeth yn erbyn datblygwyr ‘gwyrdd’, gan gynnwys cwmnïau mawr sydd eisio codi llwyth o ffermydd gwynt …

“Rwy’n pryderu ein bod mewn lle peryglus o ran datblygiad gwleidyddol Cymru. Mae’n ymddangos bod yna gred gynyddol ei bod yn dderbyniol gwneud y pethau anghywir am y rhesymau ‘iawn’. Dyw’r agwedd hon ddim wedi ei chyfyngu bellach i’r chwith eithaf; mae wedi lledu i’r prif ffrwd i’r ‘rhai blaengar’ duwiol-debyg. Os gallwch berswadio eich hunan bod pawb sydd yn eich erbyn yn ffasgwyr, yn drawsffobiaid neu’n wadwyr newid hinsawdd… rhwydd hynt i chi! Efallai at y pwynt lle: ‘Ydw, efallai fy mod i’n pluo fy nyth fy hun, ond dw i hefyd yn achub y blaned – felly mae popeth yn iawn.’”

Mae wedi bod yn argyfwng ym mudiad annibyniaeth YesCymru ond, wrth i’w haelodau ystyried newid cyfansoddiad y corff, mae Huw Marshall yn gweld gobaith o anwybodaeth …

“Nid y cyfansoddiad a arweiniodd YesCymru i’r fan hyn. Yn hytrach, methiant pwyllgorau blaenorol – gan gynnwys un y bues i arno fo am gyfnod byr – i greu strwythur proffesiynol wedi’i staffio gan unigolion tebol gyda’r sgiliau angenrheidiol i arwain ymgyrchoedd a dadlau achos positif o blaid annibyniaeth. Mae ymladd mewnol y misoedd diwethaf wedi gwneud drwg i enw da YesCymru. Ond, mi fetia’ i fod y rhan fwya’ o’r 18,000 o aelodau yn hapus anymwybodol o’r hyn sydd wedi digwydd y tu ôl i’r llenni ac yn gyhoeddus mewn swigen Twitter.” (thenational.wales)

Mae John Dixon yn gweld ffordd o ateb rhai o broblemau mawr y byd… ond, fel Peter Black, heb fod yn rhy ffyddiog yn Llywodraeth bresennol Prydain …

“…yr unig ffordd i ddatrys problemau gwirioneddol fawr y byd yw trwy sylweddoli mai’r ddynoliaeth gyfan yw ‘ni’; mai dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ni fynd i’r afael â newid hinsawdd, rhyfel, newyn a thlodi… Os na all y Deyrnas Unedig hyd yn oed lwyddo i gartrefu ychydig o ffoaduriaid despret, rwy’n amau a all addasu digon yn yr amser sydd ar gael. Pan wela’ i’r math o gasineb ‘nid ni’ a ddangoswyd gan y digwyddiad diweddar pan geisiodd pobol atal lawnsio cwch achub, a’r Prif Weinidog yn atgyfnerthu ei gynllun anghyfreithiol ac anfoesol i wthio cychod yn ôl i ddyfroedd Ffrainc, alla’ i ddim ond bod yn besimistaidd. Ein gobaith yw mai eithriad yw’r Deyrnas Unedig dan ei rheolwyr presennol.” (borthlas.blogspot.com)