Mae’r bardd Cranogwen mewn dwylo da, a hithau am gael ei hanfarwoli mewn efydd gan fab i un o artistiaid Picasso …
Mae’r criw sy’n gyfrifol am gomisiynu’r cerflun diweddaraf o Gymraes nodedig wedi dewis eu cerflunydd.
Sebastien Boyesen o Langrannog fydd yn gwneud y cerflun o Sarah Jane Rees, a oedd yn cael ei hadnabod wrth ei henw barddol, Cranogwen.
Cafodd Sebastien ei ddewis fel rhan o gywaith rhwng ymgyrch Merched Mawreddog Cymru a mudiad ‘Cerflun Cymunedol Cranogwen’, is-grŵp o Bwyllgor Lles Llangrannog. Dyma’r trydydd cerflun i gael ei gomisiynu gan ymgyrch Merched Mawreddog o fenyw ‘go-iawn’, ar ôl cerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd, a’r un o Elaine Morgan, y dramodydd, a fydd yn cael ei ddadorchuddio yn Aberpennar cyn bo hir.
Bydd Sebastien Boyesen, sy’n enedigol o Sussex, nawr yn mynd ati i gynllunio cerflun ffigurol o Cranogwen, i’w osod ar safle gyferbyn â’i bedd ym mynwent yr Eglwys yn Llangrannog, ar gyfer ei ddadorchuddio yn 2023.
“Pan ddaeth hi lawr i’r rhestr fer o bump, ro’n i’n meddwl ei fod yn gyfle gwych,” meddai. “Meddyliais i y bydden i wrth fy modd yn ei gwneud hi fel cerflun, a minnau’n byw yma yn Llangrannog ers 30 mlynedd bellach. Dyma fy nghartref, yma y ganwyd fy mhlant, maen nhw i gyd yn siarad Cymraeg – dyma eu cartref.”
Ond mae cerflun Cranogwen yn mynd i fod yn “her” yn ôl Sebastien Boyesen. “Mi fydd yn waith anodd oherwydd ei fod e’n mynd i fod yn rhywbeth a fydd yn weladwy iawn. Roedd hi’n gymeriad bywyd go-iawn.
“Wrth gwrs, mae yna luniau ohoni, ond dim ond ychydig. Felly mae gennym ni syniad o’i gwedd. Ond o ran ceisio cyfleu gwaith cerfluniol tri-dimensiwn, mae’n rhaid i chi geisio cael y mynegiant yn iawn er mwyn gwneud iddi edrych fel pe bai hi’n berson go-iawn, sydd â grafitas. Rhaid i ni grynhoi’r holl bethau y mae pawb yn eu gwybod amdani i gyd yn y gwaith. Mae’n mynd i fod yn her.”
Digwydd bod, mae yn Llangrannog gerflun arall o waith Sebastien Boyesen, yr un o Sant Carannog sydd ar y penrhyn i’r chwith o’r traeth.
“Mae hi’n anrhydedd mawr i mi. O’m rhan i, mae’n ymwneud ag etifeddiaeth. Fel pwyllgor, rydyn ni wedi’i gynllunio fel ei fod yn para ymhell y tu hwnt i’n hoes ni.”
Yn dal yno ymhen 100 mlynedd
Mae Sebastien Boyesen yn canmol agwedd y “pwyllgor gwych” – menywod lleol o’r pentref gan fwyaf – y mae’n cydweithio gyda nhw ar y comisiwn.
“Ein bwriad yw y bydd y cerflun yn dal i fod yno ymhen 100 mlynedd,” meddai. “Rydyn ni hefyd am ailgynllunio’r ardd, creu gardd newydd iddi, a fydd yn parhau ymhell ar ôl i ni gyd ymadael. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud rhywbeth felly.”
Mi wnaeth y cerflunydd argraff ar y pwyllgor, am ei ‘ymchwil bersonol ystyriol’ ar sut i gynrychioli Cranogwen mewn cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a gweledol.
“Roedd hi (Cranogwen) yn fenyw a hanner,” meddai Sebastien Boyesen. “Mi aeth y tu hwnt i’r hyn a oedd yn cael ei ddisgwyl gan fenywod ar y pryd. Rydyn ni i gyd wedi gwneud llawer o ymchwil, ac wedi ein syfrdanu gan yr hyn y mae hi wedi’i gyflawni fel menyw yn y cyfnod. Roedd hi’n anodd i unrhyw un lwyddo’r adeg hynny. Bod yna ferch o bentref bach yn y gorllewin wedi cyflawni cymaint yn ei hoes ei hun – mae hynny’n werth ei ddathlu.”
Mi gafodd argraff ar y pwyllgor hefyd oherwydd ei brofiad helaeth o ddylunio a gosod gwaith celf cyhoeddus drwy Gymru a Phrydain. Ei waith enwocaf yng Nghymru yw ‘Y Gwarcheidwad’, cerflun enfawr a gafodd ei gomisiynu i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb mwyngloddio 1960 yn Six Bells a laddodd 45 o ddynion. Mae hi’n sefyll 20 metr uwchben safle’r hen lofa lle digwyddodd y drasiedi.
Bu’n byw am flynyddoedd yng Nghasnewydd, ac mae nifer o’i gerfluniau i’w gweld yn y ddinas honno, ac yn nhref y Coed Duon.
Mae ganddo gerflun arall ar y gweill mewn llecyn arall ym Mae Ceredigion. Mae wedi creu cynlluniau ar gyfer celf gyhoeddus a fydd yn cael ei osod ar ben pellaf y cei yn Aberaeron, i gofio am ferch ifanc o’r dref a fu farw ar y môr wrth hwylio i’r Unol Daleithiau. Mae’r project yn rhan o gynllun uchelgeisiol i ailgynllunio’r ardal honno ac mae cyngor y dref wedi cymeradwyo’r syniad, er bod y gwaith wedi’i oedi ar hyn o bryd.
“Mae’r ffordd rydyn ni wedi’i ddylunio yn mynd i mewn ac allan o ffocws,” meddai Sebastien Boyesen. “Roedden ni’n teimlo bod hynny’n drosiad ar gyfer sut mae pobol yn breuddwydio am y dyfodol, a does dim byd yn glir iawn. Mae yn eglur weithiau, a thro arall ddim – dyna sut y gwnaethon ni ddatblygu’r stori. Mae yn gynllun personol iawn, yr ydyn ni’n gobeithio un diwrnod y gallwn ei wireddu.”
Ei dad yn gweithio i Picasso
Mae Cranogwen mewn dwylo diogel gan fod celf yn y gwaed yn nheulu Sebastien Boyesen. Roedd ei dad yn arfer gwneud mosaigau i’r artist mawr Pablo Picasso yn Ffrainc yn ystod y 1950au.
Roedd rhieni ei dad – Hjalmar Hjorth-Boyesen – wedi mudo o Norwy i’r Unol Daleithiau ar ddechrau’r 20fed ganrif, y ddau yn ddarlithwyr prifysgol. Roedd Hjalmar yn artist ac yn gyfarwyddwr theatr yn Efrog Newydd cyn yr Ail Ryfel Byd. Pan oedd yn un o swyddogion Llynges yr Unol Daleithiau, bu’n rhan o’r glaniadau yn Normandi ac roedd ym Mharis pan gafodd y ddinas ei diosg o afael y Natsïaid yn 1944. Ym Mharis ymwelodd Hjalmar Hjorth-Boyesen â Picasso, a mynd â phethau iddo – coffi a phapur tŷ bach, yn bennaf. Flynyddoedd wedyn, dychwelodd i Ffrainc a galw ar Picasso yn ei gartref yn Cannes. Roedd Picasso yn cofio am gymwynas y cyn-filwr, ac fe’i comisiynodd i wneud mosaigau o’i ddarluniau.
Cyfarfu Hjalmar â’i wraig, Dorothy, wrth gerdded y stryd yn Cannes. Saesnes yn byw yn yr Aifft oedd hi, ond a oedd wedi gorfod gadael adeg anghydfod Suez a chael swydd yn dysgu cerdd yn Cannes.
“Mae’n swnio fel yr amser mwyaf anhygoel mewn bywyd ar ddiwedd y 1950au,” meddai Sebastien Boyesen. “Dywedodd fy nhad dro ar ôl tro mai’r peth pwysicaf a wnaeth erioed yn ei fywyd oedd gweithio gyda’r dyn mawr. Mae gen i luniau hyfryd o fy nhad gyda Picasso yn sefyll yn ei stiwdio. Mae’n stori anhygoel. Ni welais i erioed fy nhad yn llefain yn ei fywyd, ar wahân am y diwrnod y bu farw Picasso. Dywedodd ei fod yn berson anhygoel.”
Cafodd ei frawd a’i chwaer hŷn eu geni yn Cannes ond yn Sussex y cafodd Sebastien ei eni yn 1960.
“Mae’n stori hynod ddiddorol, ond un na chlywais i erioed ei diwedd,” meddai’r cerflunydd, “gan fod dad wedi marw’n ifanc iawn (58) pan oeddwn i’n ddeunaw oed, yn dechrau fel arlunydd. Roeddwn i newydd gael fy nerbyn i Goleg Celf Bournemouth a Poole.”
Roedd Picasso wedi gwneud darlun o’i fam a’i frawd hŷn yn fabi bach. Yn anffodus, bu’n rhaid i’w rieni werthu’r darlun cyn gadael Ffrainc oherwydd diffyg arian. Mae’r llun mewn oriel yn Tokyo, ond mae ei frawd yn ceisio codi arian er mwyn ei brynu ar gyfer Amgueddfa Picasso ym Mharis. “Dw i byth wedi gweld y gwreiddiol,” meddai Sebastien Boyesen, “ond mi wnaf i un diwrnod.”
Pwy oedd Cranogwen?
- Roedd Cranogwen yn forwr, yn athrawes, yn fardd, yn weinidog, yn newyddiadurwr – hi oedd golygydd Y Frythones, yr ail gylchgrawn Cymraeg i ferched.
- Daeth yn enwog drwy’r wlad wrth ennill gwobr am y gerdd ‘Y Fodrwy Briodasol’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1865 gan guro mawrion fel Ceiriog ac Islwyn.
- Dechreuodd ddarlithio drwy’r wlad, ac y darlithoed mor boblogaidd nes iddi roi’r gorau i’w gwaith yn yr ysgol yn 1866.
- Daeth yn enwog am ei phregethau, a hynny ar adeg pan oedd hi’n anarferol i ferched bregethu. Bu i rai dynion wrthod pregethu yn yr un oedfa â hi, ond daliodd Cranogwen i ddenu torfeydd.
- Aeth i’r Unol Daleithiau am flwyddyn ac, ar ôl dychwelyd, bu’n darlithio ar destunau fel ‘Tu Hwnt i’r Mynyddoedd Creigiog’ sef disgrifiad o’r hyn a welodd yn ardal y Rockies.
- Ni phriododd erioed; ei chymar oes oedd ei chymydog Jane Thomas, a buon nhw’n cyd-fyw am ugain mlynedd. Yn ei ysgrif goffa yn Y Goleuad, dywedodd y Parch J Jenkyns Jones mai ‘Cymeriad ar ei phen ei hun ydoedd – yr oedd yn eithriad ymysg ei rhyw’.