Mae’r caneuon ar y casgliad Rhywbeth tebyg i hyn gan Aeron Pughe yn onest ac yn ffraeth.

Fe gafodd yr actor a’r cyflwynydd, sy’n ennill ei fara menyn yn weldio pan nad yw o flaen camerâu’r teledu, gyfle i wireddu tipyn o freuddwyd yn ystod y cyfnod clo, a mynd ati i sgrifennu a recordio ei ganeuon ei hun.

Maen nhw yn rhai yn yr arddull canu gwlad a bluegrass, ac fe gafodd Aeron help gan gwpwl o gerddorion profiadol o America i’w recordio nhw.

Teg dweud ei fod yn adlewyrchu ar natur bywyd yn y caneuon ar ei albwm cyntaf, ac yn gwneud hynny gyda gwên yn ei lais a thafod yn ei foch.

Mae’r casgliad yn agor gyda chân cyntri-roc o’r enw ‘Cresisus Canol Oed’, gydag Aeron yn canu:

‘Yr un oed â bawd fy nhroed

Rhyw fymryn hŷn na ‘nannedd

Hynach heddiw na fues i erioed

Ond dal yn reit blentynaidd

Smocio hash a thyfu mwstash

Wedyn symud i fyw i’r coed

Ailgynnau tân

Efo llechen lân

Dw i mewn creisus canol oed’

Mae yn mynd ei flaen i ganu am dyfu ei wallt yn hir, prynu cwch a chael tatŵ.

Ond onid ydy Aeron – sydd ond yn 41 oed ac yn dad i ddau o blant bach – braidd yn ifanc i fod yn canu am sgreisu canol oed?!

“Weeel, dw i ddim yn gwybod,” meddai’r mab fferm o gyffiniau Machynlleth.

“Dw i’n teimlo ar ôl y locdawn, roedd persbectif rywun yn newid lot ynde.

“A dw i yn gwrando ar country music, dyna fe mhethau i, wedi bod erioed…

“Dw i’n gwrando lot ar stwff fel Waylon Jennings a Willie Nelson a stwff fel yna, a dim trist yw e, nage? [Caneuon lle] ti’n hanner chwerthin am ben dy hun, mewn ffordd.

“Ac roeddwn i jesd yn meddwl bo midlife crisis yn cnocio ar y drws, a bod gena’i lot o bethau roeddwn i eisiau gwneud ar fy bucket list, a rhoiti fel hynny!”

Felly mae yn swnio fel ei fod wedi sgwennu casgliad o ganeuon sy’n cymryd stoc o’i fywyd yn ystod y cyfnod clo…

“Ydy, yn sicr. Dw i ddim eisiau swnio fel bo fi mewn lle tywyll. Ond dw i yn un sydd yn cael cyfnodau tawelach ac yn mynd dipyn bach yn down in the dumps.

“Ac roeddwn i yn gwybod pan ddaeth y locdawn, wnaeth fy ngwaith teledu i gyd sdopio, a wnes i benderfynu: ‘Dw i angen project’.

Aeron Pughe ar y porch yn ei gaban pren

“Ac roedd gen i un peth ar fy bucket list – bildio log cabin i fy hun.

“Wedyn fildies i hwnnw, ac roedd pawb yn dweud: ‘Ti angen banjo rŵan i’w chwarae ar y porch!’ – mae’r [caban] yn eithaf Americanaidd.

“Wedyn brynes i fanjo, ac wedyn trwy… dwn i ddim ai ffawd ta beth oedd hi…

“Ond wnes i ffeindio allan bod yna gwpwl wedi symud i Fachynlleth o America, oedd wedi chwarae yn Nashville ac wedi teithio’r byd yn chwarae miwsig bluegrass.

“A wnes i ddechrau cwrdd fyny efo Mike i gael gwersi banjo, ac roeddwn i yn ffeindio bo fi ddim yn mynd i unlle ar y banjo.

“A wnaeth Mike ofyn: ‘Have you got some Welsh songs?’

“A wnes i ateb: ‘Well I’ve got some of my own’… a dyma fo’n gofyn i gael eu clywed nhw.

“Wedyn es i nôl y gitâr a chwarae nhw, a dyma fo’n dweud: ‘I’ll tell you what – I’ve got a studio and we’re gonna do an album.’

“A wnaeth o ddigwydd fel’ny, a doeddwn i ddim wir wedi meddwl gwneud, er bod o wedi bod yn freuddwyd gena’i.

“Felly lwc pur, a ffeindio allan bod ei wraig o yn chwarae pob offeryn dan haul, a bod ganddo fo fand.

“Ac achos ein bod ni yn gwrando ar gerddoriaeth eitha’ tebyg i’n gilydd, wnaethon ni benderfynu ei recordio fo yn gwneud takes byw mewn stiwdio, fel y [nineteen] seventies country artists.

“Ac fel y gwnewch chi sylweddoli os y gwrandewch chi ar y caneuon, tydw i ddim yn cyfrif fy hunan yn gerddor nac yn ganwr, ond mae gen i angerdd.

“Roedd o’n rhywbeth roeddwn i eisiau gwneud, ac rydw i wedi ei wneud o. Ac rydw i yn hynod o browd ohono fo – dim bwys gena’i be’ mae neb arall yn feddwl!”

A faint o’r pethau sy’n cael eu crybwyll yn y gân ‘Creisus Canol Oed’ – tyfu gwallt yn hir, cael tatŵ a phrynu cwch – y mae Aeron wedi eu gwneud?!

“Dw i yn chwilio am gwch… sgena i ddim tatŵs, eto…

“Fel bachgen cefn gwlad – a dw i ddim am bechu neb – ond mae yna ryw gulni weithiau, o ran beth mae disgwyl i chi fod.

“Yn y gân ‘Ar Goll’ ar yr albwm, mae o’n dweud bod yna ryw elfen o erfyn cydnabyddiaeth gan eich cyndeidiau yng nghefn gwlad.

“A dw i wedi rhoi llinell o dan lot o hynna a dweud: ‘Blincin hec, be’ ydy bwys os ydach chi eisiau tyfu eich gwallt yn hir, neu eisiau mwstash ac eisiau gwisgo ychydig yn wahanol?’

“Pobol sy’n dwyn ac yn lladd pobol sydd eisiau eu beirniadu, ynde!”

Canu am y cwrw… a’r merched

Un o ganeuon hynod yr albwm newydd ydy ‘Problem Yfed’ gydag Aeron yn canu o bersbectif un sydd y cyntaf i gyrraedd y dafarn, a’r olaf i adael:

‘Anghofio popeth am y byd a’i broblemau

Ac ordro dau, jesd cyn i’r bar yma gau’

Ydy Aeron yn meddwl y bydd pobol yn gwrando ar y gân, a chymryd bod ganddo broblem gyda’r botel?

“Dw i’n meddwl, bydd… dw i yn forty one rwan, a ges i ryw gyfnod, cyn i fi setlo efo fy ngwraig, roeddwn i yn mynd yn eithaf gwirion.

“Dw i ddim yn gwybod lle i dynnu’r llinell, pan dw i ar y cwrw.

“Ac efallai fy mod i wedi clywed fy ffrindiau yn dweud: ‘Asu! Mae’r Aeron yna yn yfed!’

“Ond dw i yn cael peint fel pawb arall, yn joio hwyl a joio nonsens. Fyswn i ddim yn dweud bod gena’i broblem.”

Cân arall ganddo ar yr un trywydd yw ‘Angen lot o gwrw i dy garu’, sy’n sôn am foi yn profi perthynas carwriaethol heriol:

‘Mae hi’n deutha’ i be’ i’w wneud

A deutha’ i lle i fynd

Dewis fy ngelynion

A dewis pwy sy’n ffrind

Gwario mhres i gyd

A ’ngadael i mewn dyled

Roedd hi’n arfer gwneud fi’n hapus

Ond nawr mae’n gwneud fi yfed!’

Ond nid Aeron yw’r boi yn y gân.

“Gyda chân fel ‘Angen lot o gwrw i dy garu’, mae ychydig o fy ffrindiau wedi gofyn: ‘Beth mae Lleucu’r wraig yn feddwl o hwn?’

“Dydy o ddim am Lleucu. Mae o am dan chwerthin am ben y pethau hynny i gyd…

“Elli di fod yn neis-neis, dw i’n teimlo, ac mae yna ystrydeb efo country and western, bod o’n gallu bod yn cheesy.

“Ond tri chord a’r gwirionedd oedd Hank Williams yn dweud yr oeddet ti angen i gael cân country.

“Wedyn dw i wedi trïo bod yn eithaf onest, ac efallai bod yna bobol yn mynd i ddarllen fewn [i’r geiriau] fwy na’i gilydd, a meddwl bod y caneuon i gyd amdana i.

“Mae yna elfen ohona i ym mhob un, ond dw i’n trïo edrych ar bethau yn fwy cyffredinol.”

Ac yntau wedi arfer actio’r môr leidr Ben Dant, yn canu caneuon i blant ar raglenni Cyw, oes yna elfen gyda’r albwm newydd o gael y rhyddid i ganu’r caneuon y mae o ei hun am eu canu?

“Iesgob oes. Dyna yn union beth ydy o.

“Fues i’n chwarae ychydig efo bandiau pan oeddwn i yn iau, ac roeddwn i wir yn mwynhau ei wneud o.

“A dw i’n berson uffernol o nerfus am hunan-hyrwyddo. Ond yn ddiweddar dw i wedi dechrau meddwl: ‘Na, dw i ddim wedi licio gwneud, ond dw i’n mynd i’w wneud o’.

“Ac wedyn mae’r albwm yma yn gyfle, yn llechen lân, mewn ffordd, [i ddweud]: ‘Anghofiwch am bethau dw i wedi bod yn ffidlan efo cynt’.

“Dw i wedi sgwennu ambell beth i Noson Lawen yn y gorffennol.

“Ond mae hwn yn ryw ryddid newydd, ac mae’r ffaith bod gen i fand ready made yn briliant.”

Y gobaith yw gigio i hyrwyddo’r albwm yn y flwyddyn newydd.

Mwy o bwysau?

Yn ogystal ag actio Ben Dant ar Cyw, mae Aeron Pughe yn rhan o gast y sioe gomedi Hyd y Pwrs ac yn cyflwyno sioeau megis Y Ffair Aeaf ar S4C.

Oes yna fwy o bwysau arno felly, ac yntau yn wyneb cyfarwydd yn rhoi tro ar ryddhau albwm, nag y byddai pe bai yn ddim byd mwy na mab fferm sy’n weldio a chanu?

“Dw i’n cytuno i’r carn, a dyna beth mae pobol sydd agosa ata i wedi bod yn meddwl.

“Mae’r wraig yn eithaf gonest ei barn, mewn ffordd neis, ac mae hi’n dweud: ‘Blydi hel, beth wyt ti eisiau bod? Ti’n trïo bod yn actor, ti’n trïo bod yn gyflwynydd, ti’n gwneud pethau plant, a rŵan ti eisiau bod yn ganwr!’

“Ond s’dim bwys. Dw i ddim eisiau bod yn un ohonyn nhw. Dw i eisiau bod yn bob un ohonyn nhw!

“Mae bywyd rhy fyr i roi dy hunan mewn un categori. Os ti’n joio gwneud rhywbeth, wel gwneud o.

“Ac efallai bo fi ddim yn serennu yn ddim un ohonyn nhw, ond o leia’ dw i’n trïo!”

Canu o’r galon

Hwyrach bod thema’r albwm yn cael ei gwmpasu orau ar y gân ‘Fron Goch’, pan mae Aeron Pughe yn canu:

‘Ac er bod yna deimlad o berthyn

Dw i ddim yn siŵr lle dw i fod yn y llun

Dw i’n nabod pob ffridd a phob dyffryn

Ond dw i ddim yn siŵr os dw i’n nabod fi fy hun’

Gobaith Aeron yw y bydd pobol yn gallu cydymdeimlo gyda sentiment y gân.

“Mae Sara Meredydd yn canu cefndir ar y CD, ac fe gafodd hi gopi reit ar y cychwyn,” eglura Aeron.

“Ac fe wnaeth hi ei chwarae i gwpwl o bobol, ac roedd ei thad hi’n crïo pan glywodd o [‘Fron Goch’], achos roedd o’n gallu uniaethu.

“Ac mae sawl un arall yn dweud eu bod nhw yn cael ychydig o goose bumps, achos bo nhw wedi gallu uniaethu a gweld fod o’n dod yn union o fy nghalon i.

“Achos fyse rhywun ddim yn canu am hynny, oni bai eu bod nhw wedi bod trwyddo fo.”

Mae Rhywbeth tebyg i hyn ar gael i’w brynu ar CD yn y Siopau Cymraeg, ac mi fydd ar gael i’w ffrydio yn ddigidol ar Nos Galan, 31 Rhagfyr