Mae yna ddau fath o wleidyddiaeth wedi bod ar waith yn ystod yr wythnosau diwetha’ – un math yng Nghaerdydd, y llall yn Llundain.

Erbyn ei weld yn fanwl, mae yna lawer iawn o bethau da yng nghytundeb Llafur a Phlaid Cymru … mesurau adeiladol a chreadigol sy’n rhoi’r argraff o awydd i fynd i’r afael go-iawn efo rhai problemau anodd.