Anaml mae gwleidyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhywbeth positif y gallwn ni lawenhau ynddo, a gyda phopeth sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwnnw mae’n hawdd – rhy hawdd, bosib – bod yn sinicaidd ac yn besimistaidd, dau beth dw i fy hun yn cael fy maglu ganddynt yn weddol ddidrafferth. Ond cafwyd wythnos ddiwethaf holl fanylion y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r llywodraeth Lafur. Ac, ar yr olwg gyntaf, dydi hi’m hanner drwg.