Druan â Phlaid Cymru.

Nid yw erioed wedi llwyddo i sicrhau digon o seddi i greu Llywodraeth. Ers uchafbwynt yr etholiad cyntaf (17 sedd yn 1999), cymharol siomedig fu canlyniadau’r blaid (megis 11 sedd yn 2011 – a 13 yn 2021). Sef 18% a 21% o’r seddi.

Ac, wrth gwrs, ni lwyddodd y Blaid Lafur i sicrhau mwyafrif – gyda’r nifer uchaf yn 30 sedd (yn 2003, 2011 a 2021).