Bu’n ddechrau digon cythryblus i’r wythnos i Keir Starmer wrth iddo ad-drefnu ei fainc flaen.

Yn ôl rhai, bu’n gam rhyfedd gan Syr Keir gan ystyried yr holl sôn am sgandalau ar feinciau Boris Johnson yn ddiweddar.

A druan hefyd ar Peppa Pig am gael ei llusgo i lanast y Toris yr wythnos ddiwethaf yn dilyn perfformiad Boris i gynhadledd pwysigion y byd busnes!