Mae Caru Crefftio yn gyfrol sy’n dathlu creadigrwydd aelodau Merched y Wawr ac yn deillio o’r dudalen Facebook ‘Curo’r Corona’n Crefftio’, gafodd ei sefydlu yn fuan ar ôl y cyfnod clo ym mis Mawrth y llynedd. Yma mae Iris Williams, un o olygyddion y llyfr, yn egluro sut wnaeth troi at grefftio helpu nifer yn ystod y clo…